Jayden Parkinson - cafodd ei lladd ar Ragfyr 3 y llynedd
Mae dyn treisgar wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes, a’i orchymyn i dreulio o leia’ 20 mlynedd dan glo, am lofruddio ei gyn-gariad a oedd yn feichiog ar y pryd.
Fe laddodd Ben Blakeley, 22, ei gariad, Jayden Parkinson, yn yr awyr agored ar Ragfyr 3 y llynedd – 24 awr yn unig wedi iddi ddweud wrthi ei bod yn disgwyl ei blentyn.
Ar ôl ei thagu, fe gladdodd ei chorff ym medd ei ewythr ei hun mewn mynwent yn Didcot, Swydd Rhydychen.
Fe glywodd y llys fel yr oedd y cyn-ddyn bun wedi ceisio cael ei gariad i ladd ei hun, trwy fygwth rhoi lluniau a fideos personol ohoni ar wefan gymdeithasol Facebook wedi iddyn nhw wahanu.
Roedd Ben Blakeley yn gwadu llofruddio Jayden, ond yn cyfadde’ ei fod yn euog o’i dynladdiad.