Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu dyfarnu’n euog o ladd stondinwr marchad, wedi ffrae tros oriawr gafodd ei dwyn.
Fe gafodd Rashid Naeem ei drywanu yn ei frest â chyllell yn ystod ffrwgwd ger ei stondin yn Queen’s Market, dwyrain Llundain.
Yn dilyn achos llys yn yr Old Bailey yn Llundain, fe gafwyd Karlton Burton, 15 oed, yn euog o lofruddiaeth. Ef oedd yn gyfrifol am blannu’r gyllell ym mrest y stondinwr a’i ladd.
Roedd ei ffrind, Javauntee Campbell, 16 oed, wedi rhoi dwrn i’r stondiwr, ac fe’i cafwyd yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog heddiw o ddynladdiad.
Fe gafwyd trydydd diffynnydd, 15 oed, yn ddieog o lofruddiaeth.