Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, roi pwysau ar David Cameron i roi stop ar werthu rhagor o arfau i Israel.
Daw’r alwad wrth i’r ymladd rhwng lluoedd arfog Israel ac ymladdwyr Hamas ym Mhalestina barhau.
Fe alwodd Leanne Wood am gadoediad i’r ymladd rhwng y ddwy ochr, yn dilyn yr ymosodiadau diweddaraf a welodd fom yn glanio ar ysgol y Cenhedloedd Unedig yn Gaza.
Mae dros 700 o Balestiniaid a 35 o Israeliaid eisoes wedi cael eu lladd yn yr ymladd, gan gynnwys plant a theuluoedd.
Llythyr
Yn ei llythyr at Carwyn Jones, fe ddywed arweinydd Plaid Cymru fod gweithredoedd bomio Israel yn “anghyfiawn”.
“Mae’r gosb gyfunol yma sydd yn parhau’n anghyfiawn ac yn arwain at ragor o ddicter, rhwystredigaeth ac atgasedd ymysg y Palestiniaid sydd yn garcharorion de facto,” meddai Leanne Wood wrth sôn am ymgyrch fomio Israel.
“Mae’n rhaid cynnal trafodaethau [rhwng y ddwy ochr] a fydd hynny ddim ond yn digwydd gyda phwysau rhyngwladol cryf.
“Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i chwarae ei rhan. Mae gan bobl Cymru gysylltiadau â Phalestiniaid ac mae gan lawer o grwpiau a sefydliadau Cymreig ddiddordeb dyngarol hir dymor yn y rhanbarth ac eisiau gweld datrysiad heddychlon a chyfiawn.”
Ffoaduriaid
Yn ddiweddar fe ddywedodd Llywodraeth yr Alban y bydden nhw’n fodlon derbyn ffoaduriaid o Balestina oherwydd yr ymladd yno. Ac fe awgrymodd Leanne Wood y dylai hyn fod yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru hefyd.
“Rwy’n eich annog, ar ran pobl Cymru, i annog y Prif Weinidog i roi stop ar werthu arfau i Israel, i godi’r blocâd ac i weithio tuag at gadoediad yn syth,” meddai arweinydd Plaid Cymru eto.
“Buaswn hefyd yn eich annog i wneud datganiad tebyg i’r un a wnaeth Llywodraeth yr Alban yr wythnos ddiwethaf.”