Fe fydd yn rhaid i’r cyn-DJ Radio 1, Dave Lee Travis, sefyll ei brawf eto ar dri chyhuddiad o ymosod sy’n cael eu dwyn yn ei erbyn.

Fe gafodd Travis, 69, ei glirio o 12 cyhuddiad o ymosodiadau anweddus yn gynharach eleni, ond fe fethodd y rheithgor â dod i benderfyniad ar un cyhuddiad arall o ymosodiad anweddus a oedd yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1990au, ynghyd ag un cyhuddiad arall o ymosodiad rhywiol yn 2008.

Mae hefyd wedi pledio’n ddi-euog i un cyhuddiad arall o ymosod yn anweddus ar ddynes dros 16 oed ar Ionawr 17, 1995.

Mae’r cyn-ddarlledwr wedi’i gyhuddo dan ei enw iawn, David Griffin, ac fe fu gerbron Llys y Goron Southwark heddiw i glywed y Barnwr Anthony Leonard QC yn dweud mai ar Fedi 1 y bydd ei achos yn cael ei glywed nesa’.