Alistair Darling
Fe fydd Llywodraeth yr Alban a’r ymgyrch ‘Ie’ yn defnyddio “unrhyw dric” wrth i’r refferendwm ar annibyniaeth agosáu, yn ôl arweinydd ymgyrch Better Together.

Dywedodd cyn-ganghellor Prydain Alistair Darling, sydd yn arwain yr ymgyrch ‘Na’, y byddai’r ymgyrchwyr ‘Ie’ yn mynd yn fwyfwy “despret” wrth i amser redeg allan cyn dyddiad y bleidlais ar Fedi 18.

Fe fydd Senedd yr Alban yn ailymgynnull yn gynt na’r arfer ar ddiwedd yr haf eleni, gan fod Llywodraeth yr SNP yn awyddus i gyhoeddi polisïau newydd a gwneud rhywfaint o waith cyn yr ymgyrchu ffyrnig ar ddechrau mis Medi.

Fe fydd y refferendwm yn digwydd ar 17 Medi, ond mae tua chwarter etholwyr yr Alban eisoes wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post gan olygu y byddwn nhw’n gwneud eu penderfyniadau erbyn diwedd fis Awst.

“Mae’n golygu fod gennym ni gyfnod byr, allweddol ond rydym ni’n fwyfwy hyderus ynglŷn â’r dadleuon rydym ni’n eu cyflwyno,” meddai Alistair Darling.

“Wrth i’n hyder ni godi, mae’n amlwg fod y cenedlaetholwyr yn rhedeg allan o ddadleuon ac allan o amser, a dyna pam rwy’n amau ar ôl Gemau’r Gymanwlad y gwelwch chi nhw’n mynd yn fwy despret yn y pethau fyddwn nhw’n ei ddweud.

“Rydym yn disgwyl y bydd y cenedlaetholwyr, yn eu hanobaith, yn despret i dynnu unrhyw dric y gallwn nhw pan fyddwn nhw yn Senedd yr Alban neu ddim.”

Mae tîm yr Albanwyr yn drydydd yn nhabl Gemau’r Gymanwlad ar hyn o bryd gyda deg medal gan gynnwys pedair medal aur.

Ac fe ddywedodd Darling fod llwyddiant y tîm yn dangos y gallwn nhw gyflawni ar eu pen eu hunain ac fel rhan o Brydain.

“Mae casgliad medalau’r Alban ar ôl y diwrnod cyntaf yn dangos cymaint o athletwyr gwych sydd gennym ni yn yr Alban, ac rwy’n gobeithio yr enillwn ni ragor,” meddai.

“Beth mae’n ei ddangos yw bod pob un o wledydd y Deyrnas Unedig yn medru gwneud llawer ar eu pen eu hunain, ond eu bod nhw hefyd yn medru gwneud llawer iawn fel rhan o’r DU.”