Mae un o’r 51 o bedoffiliaid honedig a gafodd eu harestio yn ne a chanolbarth Cymru wedi cael ei garcharu.

Roedd gan David Scoulding, 57, o Dremansel yn Abertawe, fwy na 49,000 o ddelweddau anweddus ar ddau gyfrifiadur, a chafodd ei garcharu am wyth mis.

Roedd wedi pledio’n euog o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, ac o gynhyrchu delweddau anweddus.

O’r 51 gafodd eu harestio yn ardaloedd Heddluoedd Gwent, De Cymru a Dyfed Powys, roedd dau eisoes ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw. Roedd gan nifer o’r rhai gafodd eu harestio gyswllt heb oruchwyliaeth gyda phlant gan gynnwys arweinydd Sgowtiaid a gofalwr maeth.

Roedd cyn blismon a rheolwr gwasanaethau cymdeithasol ymhlith y rhai gafodd eu harestio yn ne Cymru.