Mae Ffrainc wedi anfon uned filwrol i sicrhau’r safle yng ngogledd Mali ble disgynnodd awyren Air Algerie i’r ddaear gan ladd 116 o bobol.
Dywedodd gweinidog cartref Ffrainc nad oedden nhw’n medru diystyru’r posibiliad mai ymosodiad terfysgol oedd yn gyfrifol ân y ddamwain, ond mai tywydd garw oedd fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol.
Fe ddiflannodd yr awyren oddi ar y radar llai nag awr ar ôl iddi adael maes awyr Ouagadougou ym Murkina Faso ar ei thaith i Algiers.
Cafodd yr awyren ganiatâd i newid cyfeiriad oherwydd y tywydd garw.
Dywedodd arlywydd Ffrainc Francois Hollande fod un o focsys du’r awyren bellach wedi cael ei chanfod yng ngweddillion yr awyren, yn ardal Gossi yn agos i’r ffin â Burkina Faso.
Mae grwpiau terfysgol yn yr ardal honno o Mali, ac oherwydd hynny doedd Hollande ddim am ddiystyru’r posibiliad eu bod nhw wedi bod yn gyfrifol am ddamwain yr awyren.
Llynedd fe anfonwyd milwyr Ffrengig i Mali er mwyn ceisio cael gwared ag eithafwyr Islamaidd oedd yn rheoli’r ardal.
Hon yw’r drydedd ddamwain awyren o fewn wythnos. Yr wythnos diwethaf fe saethwyd awyren MH17 Malaysia Airlines i lawr dros ddwyrain Wcráin gan ladd 298 o bobl, ac ar ddydd Mercher fe fu farw 48 o bobl ar ôl i awyren yn Nhaiwan grasio mewn tywydd garw.