Gillian Elisa (Llun: Catrin Arwel)
Fydd yr actores Gillian Elisa ddim yn trafferthu mynd i berfformio yng Ngŵyl Caeredin eleni, mae’n well ganddi ddod i Ŵyl Golwg yn ei thref hi ei hun, yn Llanbedr Pont Steffan.

A hithau’n ffresh o gael ei henwebu ar gyfer gwobr fawr ar y West End yn Llundain ac ar ôl sawl blwyddyn lwyddiannus yng ngŵyl gelf fwya’ gwledydd Prydain, eleni mae’n dod i Lanbed.

Hi fydd un sêr noson agoriadol Gŵyl Golwg, noson gwis gomedi yng Nghlwb Rygbi Llanbed.

Roedd sesiwn Golwg Go Whith yn llwyddiant ysgubol yn yr ŵyl y llynedd ac mae disgwyl iddi lenwi clwb rygbi newydd y dre’, nos Wener, 12 Medi.

“Mae Golwg wedi bod mor gefnogol gyda fy ngyrfa a dw i mor falch fy mod i’n gallu dod i ddathlu gyda nhw yn Llanbed,” meddai’r actores, y gantores a’r ddigrifwraig a gafodd ei magu yn Llanbed a dechrau perfformio yno.

“Wrth gwrs, dw i’n edrych ymlaen yn ofnadw’ at ddala lan gyda hen ffrindie da. Does unman yn debyg i gatre!,” meddai Gillian, sy’n un o sêr y sioe gerddorol Billy Elliott ar y West End yn Llundain.

Gwobrau’r West End

Am ei rhan yno y cafodd hi ei henwebu ar gyfer Gwobr Dirprwy Actor y Flwyddyn yng Ngwobrau’r West End eleni. Cyn hynny, roedd hi’n enwog am action Sabrina yn Pobol y Cwm ac am greu ei chymeriadau digri’ ei hunan, fel Mrs O.T.T.

Digrifwr arall o Lanbed, Gary Slaymaker, fydd yn ôl wrth y llyw eto eleni, yn ceisio cadw rhywfaint o drefn ar y gweddill – y ddau gapten, Ifan Gruffydd ac Ifan Jones Evans, a gweddill y tîmau: Iwan John, Mari Lovgreen a Tommo.

Bydd yna ddigonedd o hwyl felly yn ystod y gêm banel ysgafn hon gyda rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru, yn edrych nôl ar rai o’r penawdau, erthyglau a lluniau sydd wedi ymddangos yng nghylchgrawn Golwg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Penwythnos o ŵyl

Mae Golwg Go Whith nos Wener 12 Medi yn agor penwythnos Gŵyl Golwg gyda Chyngerdd Gŵyl Golwg ar y nos Sadwrn a digwyddiadau o bob math – o gerddoriaeth, i drafod, i sioeau hwyl i’r plant – ar brif ddiwrnod yr ŵyl, dydd Sul, 14 Medi.

“Mae’r arlwy amrywiol dros y penwythnos yn cynnig rhywbeth i bawb. Bydd yna gomedi, cerddoriaeth byw wych, sgyrsiau difyr ar lenyddiaeth a sesiynau amrywiol ar yr oes ddigidol, heb sôn am lwyth o ddigwyddiadau cyffrous i blant,” meddai un o’r trefnwyr, Mared Ifan.

Bydd nifer cyfyngedig o docynnau penwythnos am bris gostyngol yn mynd ar werth ar wefan Gwyl Golwg o ddydd Gwener Awst 1 ymlaen. Mae modd dilyn newyddion diweddaraf yr ŵyl ar y wefan www.gwylgolwg.com a thrwy ddilyn y cyfrif Twitter @GwylGolwg.