Mae’r rheoleiddiwr Ofgem wedi mynnu fod yn rhaid i gwmnïau ynni SSE a UK Power Networks (UKPN) dalu £3.3m yn ychwanegol ar ôl ymchwilio i’r modd y gwnaethon nhw ddelio â stormydd y gaeaf diwethaf.
Mae’r cwmnïau eisoes wedi talu £4.7m ac wedi addo gwella gwasanaethau ar ôl tywydd gwael yn ne Lloegr y Nadolig diwethaf.
Ac mae Ofgem wedi rhybuddio’r diwydiant ynni bod yn rhaid iddyn nhw ddysgu gwersi’r gaeaf hwnnw i sicrhau eu bod yn gwneud mwy i adfer cyflenwad cwsmeriaid pan ddaw tywydd garw.
Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu i sefydliadau fel y Groes Goch ac Age UK a chwaraeodd ran bwysig yn helpu pobl yn ystod y trafferthion.
Bydd isafswm y tâl ar gyfer cwsmeriaid sydd yn heb drydan am dros 24 awr hefyd yn codi o £27 i £70, gydag uchafswm y cyfanswm yn codi o £216 i £700.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Awdurdod Cystadleuaeth a’r Farchnad gyhoeddi ymchwiliad ei hun i’r farchnad ynni ym Mhrydain.
Dyma ran gyntaf yr ymchwiliad a allai weld y chwe chwmni ynni mawr ym Mhrydain yn cael eu rhannu.
Fe fynnodd Ofgem yr ymchwiliad ar ôl i filiau ynni gynyddu’n sylweddol, gan ddweud nad oedd y cyhoedd yn ymddiried yn eu cwmnïau ynni.
Ond nid yw adroddiad yr Awdurdod yn debygol o gael ei chyhoeddi tan o leiaf ddiwedd y flwyddyn nesaf.