Philip Hammond
Mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi galw am gadoediad brys rhwng Israel a Hamas wrth iddo ymuno yn yr ymdrechion rhyngwladol i ddod a diwedd i’r ymladd yn Gaza.

Mae ’na bryder cynyddol am nifer y bobl gyffredin sydd wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro.

Mewn cynhadledd newyddion yn Jerwsalem gyda Phrif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu, dywedodd Philip Hammond mai Hamas oedd ar fai am y gwrthdaro diweddaraf, gan ategu unwaith eto cefnogaeth Prydain o Israel a’i hawl i’w hamddiffyn ei hun.

“Mae Prydain wedi bod yn glir iawn bod gan Israel yr hawl i amddiffyn ei hun a’i phobl ond rydyn ni’n bryderus iawn am nifer y bobl gyffredin sy’n cael eu lladd. Rydym am weld cadoediad yn cael ei gytuno ar fyrder.

“Fe wnaethon ni groesawu cynnig yr Aifft am gadoediad. Ond rydym yn siomedig bod Hamas unwaith eto wedi gwrthod y cynigion am gadoediad.”

Dywedodd Benjamin Netanyahu ei fod yn croesawu cefnogaeth Prydain ac y byddai ei lywodraeth yn parhau i weithredu er mwyn diogelu ei phobl.

Yn ôl adroddiadau mae hyd at 700 o Balestiniaid a 34 o Israeliaid wedi eu lladd ers i’r gwrthdaro ddechrau ar 8 Gorffennaf.

Mae dros 118,000 yn cael lloches yn ysgolion y Cenhedloedd Unedig ar ôl i filoedd o bobl orfod ffoi o’u cartrefi ym Mhalestina.