Claudia Lawrence
Mae heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad y gogyddes Claudia Lawrence wedi arestio dyn 46 ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Daeth y cyhoeddiad gan Heddlu Gogledd Swydd Efrog, sydd eisoes wedi arestio dyn 59 oed ar amheuaeth o lofruddio’r fenyw 35 oed.
Mae’r heddlu’n archwilio tafarn yr Acomb yng Nghaerefrog lle’r oedd Claudia Lawrence yn arfer cymdeithasu.
Fe ddiflannodd Claudia Lawrence yn ardal Heworth, Caerefrog ym mis Mawrth 2009 wrth iddi deithio o’i gwaith fel cogyddes ym Mhrifysgol Caerefrog.
Cafodd adolygiad o’r ymchwiliad i’w diflaniad ei lansio ar raglen Crimewatch y llynedd, ar ôl i wybodaeth a thystiolaeth DNA newydd ddod i law.
Mae tad Claudia Lawrence wedi bod yn ymgyrchu ers pum mlynedd i ddod o hyd i’w ferch.
Nid yw ei chorff erioed wedi cael ei ddarganfod.