Novak Djokovic, pencampwr Wimbledon 2014
Fe dderbyniodd Aelodau Seneddol werth mwy na £13,500 o docynnau ar gyfer pencampwriaeth tenis Wimbledon eleni, yn ôl ystadegau swyddogol.

Mae Llefarydd Ty’r Cyffredin, John Bercow; Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman; Gweinidog Chwaraeon yr Wrthblaid, Clive Efford; yr Aelod tros y Rhondda, Chris Bryant; ynghyd â’r Ceidwadwr, Mark Field, ymysg y rheiny a gafodd eu gwahodd i’r digwyddiadau yn SW19, Llundain, ar ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf.

Fe ddaeth hyn yn glir wrth i gofrestr diddordebau Aelodau Seneddl gan ei diweddaru.

Roedd y rheiny oedd yn cynnig tocynnau i’r ASau yn amrywio – o’r Lawn Tennis Association (LTA) a’r All England Club, i gwmni baco a oedd hefyd yn cynnig tocynnau i weld ffeinal pencampwriaeth y dynion rhwng Roger Federer a Novak Djokovic.

Fe gafodd John Bercow, sy’n dipyn o ffan o’r gêm, seddi yn y Bocs Brenhinol ar y Cwrt Canol ar ddau achlysur, ar gost o £6,210.