Fe fydd Senedd yr Alban “yn sicr” o gael mwy o bwerau – os bydd pobol y wlad yn pleidleisio’n erbyn annibyniaeth ac yn troi at Lafur. Dyna addewid Margaret Curran, Ysgrifennydd yr Alban yr wrthblaid yn San Steffan.
Mae fforwm polisi’r blaid Lafur wedi cytuno y bydd yn addo Deddf yr Alban newydd, pe bai’r blaid yn gallu ennill Etholiad Cyffredinol 2015. Ac yn honno, fe fyddai mwy o ddatganoli pwerau o Lundain i Gaeredin, yn ogystal â chyfrifoldeb am fudd-daliadau tai.
“Mae mwy o bwerau i’r Alban yn sicr y flwyddyn nesa’,” meddai Margaret Curran. “Mae Llafur yn ymrwymo i drosglwyddo pwerau trethu, swyddi a’r wladwriaeth les i Senedd yr Alban. Mae yn ein maniffesto ar gyfer 2015, ac fe fyddai Deddf yr Alban newydd yn Araith y Frenhines.
“Y ffordd orau i ddelifro polisïau blaengar ydi trwy gydweithio efo’n ffrindiau ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai wedyn, “nid trwy hollti ac ymrannu.
“Dyna pam ydyn ni’n credu y dylai pobol yr Alban bleidleisio ‘Na’ yn y refferendwm ym mis Medi, ond dweud ‘Ie’ i newid Prydain gyda Llafur ym mis Mai y flwyddyn nesa’.”