Mae ditectifs yng Ngogledd Iwerddon yn trin achos o dân mewn eglwys fel trosedd casineb.
Roedd llosgiadau i’w gweld ar ddrws ffrynt eglwys St Mary’s Star of Sea yn Newtownabbey, Co Antrim heddiw. Dyma’r ymosodiad diweddara’ mewn cyfres ohonyn nhw ar y man addoli Pabyddol.
Y gred ydi fod fandaliaid wedi tywallt hylif fflamadwy ar yr eglwys, cyn ei danio â fflam – a bod hyn i gyd wedi digwydd tua 1.30 o’r gloch fore heddiw.
Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau eu bod nhw’n trin y digwyddiad fel trosedd gasineb, ac maen nhw wedi apelio ar dystion i ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad.