Nick Clegg - "mae'n rhaid symud ymlaen"
Mae Dirprwy Brif Weinidog llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi condemnio Ty’r Cyffredin am lynu wrth arferion y gorffennol… ac mae cynnal sesiynau Cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mercher yn un o’r arferion hynny.
Mae Nick Clegg wedi dweud mewn cyfweliad teledu na fydd gwleidyddiaeth “yn symud ymlaen i’r 21ain ganrif” os na fydd San Steffan yn fodlon symud o’r 19eg ganrif.
“Dw i’n meddwl fod Cwestiynau’r Prif Weinidog wedi dod yn ffars llwyr,” meddai Nick Clegg.
“Efallai bod pwrpas iddo unwaith, ond dyma le lle na chewch chi alw neb wrth ei enw, dim ond fel ‘y gwir anrhydeddus bla bla bla’… dim ond pobol ydyn nhw… yn gweiddi ar ei gilydd.
“Mae’n sioe debyg iawn i un y gladiators gynt…
“Mae rhai pobol yn hoffi’r math yna o beth, ond fy marn i ydi fod y rhan fwya’ o bobol ddim yn dilyn manylion y drefn wleidyddol, ac maen nhw’n gweld yr holl beth fel ffars.
“Mae llawer o bomp a phasiant San Steffan bellach yn hen ffasiwn. Mae’n sownd yn y gorffennol.”