Mae’r heddlu oedd yn chwilio am bensiynwr bregus wedi rhoi’r gorau i chwilio, wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn llyn.

Fe gafwyd y corff ar dir Stubton Hall yn Swydd Lincoln, a’r gred ydi mai corff Patricia Lawrence, 65 oed, ydi o.  Fe aeth hi ar goll ddydd Iau.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r safle toc wedi 10 o’r gloch fore heddiw gan aelod o’r cyhoedd.

Dyw’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.