Mae llongau o’r Eidal ac Ynys Melita wedi achub tua 400 o bobol o’r môr wrth iddyn nhw drio cyrraedd Melita ar gwch smyglwyr.

Fe ddaethpwyd o hyd i gyrff 18 o bobol ar y cwch hefyd.

Fe ddigwyddodd yr achub ben bore heddiw, ac roedd llong gargo o Ddenmarc hefyd yn rhan o’r ymgyrch yn y dyfroedd rhwng Libya a Melita.

Does dim cadarnhad eto o ba wlad y daeth y llong a’r 400 o fudwyr ar ei bwrdd. Maen nhw i gyd wedi’u hebrwng i’r Eidal am y tro.

Ers dydd Iau yr wythnos hon, mae awdurdodau Ynys Melita yn dweud fod tua 5,000 o bobol wedi cael eu hachub mewn cyrchoedd tebyg.