Mae dyn o Golombia, De America, sy’n cael ei amau o fod yn arweinydd sefydliad byd-eang sy’n gwerthu cyffuriau ac wedi lladd 400 o bobol, wedi cael ei arestio yn Sbaen.

Fe gafodd y dyn 40 oed o’r enw Hernan Alonso Villa, sydd wedi’i ddisgrifio fel un o ddynion mwyaf peryglus Colombia, ei arestio ddoe tra’n gyrru ar briffordd ger dinas Alicante.

Mae Alonso Villa yn cael ei amau o fod yn bennaeth cartel cyffuriau yn ninas Medellin, Colombia, a fu ben-ben gyda’r barwn cyffuriau Pablo Escobar.

Mae datganiad yr heddlu yn dweud fod Alonso Villa yn rheoli 200 o bobol, a’i fod yn gyfrifol am allforio’r cyffur cocên i Sbaen, yr Unol Daleithiau a’r Iseldiroedd.