Fe ddylai gwariant trethdalwyr ar wella llwybrau seiclo godi o £2 y person bob blwyddyn i £10, yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol.
Dywedodd y Pwyllgor Trafnidiaeth yn San Steffan ei bod yn “hanfodol” fod gwariant y Llywodraeth yn codi o fewn y chwe blynedd nesaf, er mwyn lleihau’r peryg i bobol sy’n seiclo.
Bu’r pwyllgor yn asesu sut i wneud ffyrdd yn fwy diogel i’r rhai sydd ar gefn beic, ac yn eu hadroddiad fe bwysleisiodd aelodau bod angen “newid diwylliannol” er mwyn lleihau’r tensiwn rhwng gyrwyr ceir a seiclwyr.
Cwynion
Roedd seiclwyr wedi cwyno am yrwyr ymosodol, cyffyrdd wedi eu dylunio’n wael a diffyg cyfyngiadau cyflymder ar y ffyrdd – sy’n aml yn arwain at ffraeo rhwng y rhai sy’n defnyddio’r lonydd.
“Byddai buddsoddi mewn seiclo yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb, ac yn annog mwy o bobol i ddefnyddio eu beic neu gerdded,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Louise Ellman.
“Mae angen annog gyrwyr a seiclwyr i rannu’r ffyrdd, i drin ei gilydd gyda pharch ac i gydymffurfio â’r gyfraith.”
Mae’r pwyllgor yn galw ar i bob adran gydweithio i gyllido a chefnogi seiclo, gydag un awgrym yn cynnwys rhoi cyfyngiadau cyflymder o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd o “risg uchel”.