Mae cyn-brif warden Parc Cenedlaethol Eryri wedi marw mewn damwain ar y mynydd.

Bu farw John Ellis Roberts  ar ôl syrthio 25 troedfedd wrth ddringo yn Ninas Cromlech ger Llanberis ddoe.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd ond roedd wedi marw erbyn cyrraedd Bangor.

Roedd yn 70 oed ac wedi gweithio i Barc Cenedlaethol Eryri am 32 o flynyddoedd hyd at 1998.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Parc fe gafodd chwe gwobr am ei ddewrder ac MBE am ei waith.

Roedd John Ellis Roberts yn aelod o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen cyn iddo adael yn y 1970au i sefydlu tîm tebyg yn Llanberis.

Bydd “colled enfawr” ar ei ôl meddai Prif Weithredwr y Parc, Emyr Williams.