Tanni Grey-Thompson (Llun: Llywodraeth Cymru)
Fe fydd yr athletwraig o Gymru, Tanni Grey-Thompson, yn dadlau yn erbyn bwriad i roi’r hawl i oedolion sy’n derfynol wael ofyn am help i farw.
Hi fydd un o arweinwyr y gwrthwynebiad pan fydd mesur yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae disgwyl i’r ddadl bara tua 10 awr, a bydd yn clywed gan 130 o Arglwyddi – os yw’r mesur yn cael ei basio, bydd yn golygu bod hawl gan oedolyn yng Nghymru a Lloegr hawl i ofyn am gymorth meddygol i ladd eu hunain, os oes ganddyn nhw lai na chwech mis ar ôl.
Yn ôl Tanni Grey-Thompson, yr athletwraig baralympaidd fwya’ llwyddiannus erioed, mae peryg y bydd pobol anabl yn cael eu tynnu i mewn i ddarpariaeth y mesur a bod y mesur presennol yn ddechrau “llwybr llithrig”.
Dadlau rhwng arweinwyr crefyddol
Mae ffigurau crefyddol amlwg, fel cyn Archesgob Caergaint, George Carey, wedi newid eu meddyliau ar y pwnc a throi at gefnogi’r mesur, sy’n cael ei gynnig gan yr Arglwydd Falconer.
Ond mae disgwyl i Archesgob Efrog, Dr John Sentamu, ddadlau yn gryf yn erbyn caniatáu’r hawl i farw.
Mae disgwyl y bydd Dafydd Wigley hefyd yn siarad yn Nhŷ’r Arglwyddi.