Neuadd Buddug Y Bala

Mae ymgyrch ar droed i geisio achub un o’r ychydig sinemâu yng nghanolbarth Cymru.

Mae cynghorwyr lleol a thrigolion yn gwrthwynebu bwriad Cyngor Gwynedd i gau’r sinema yn Neuadd Buddug Y Bala.

Fe gafodd cyfarfod cyhoeddus yr wythnos yma glywed nad yw’r cyfarpar yn ddigon da i ddangos y ffilmiau mwya’ modern.

Ond mae un cynghorydd lleol, Dilwyn Morgan, yn galw ar y cyngor i beidio â chau’r sinema yn y neuadd nes sicrhau bod modd dangos ffilmiau yn rhywle arall yn y dre’.

‘Ceisio achub’

“Does dim penderfyniad pendant wedi ei wneud eto ond  fel cynghorwyr lleol rydan ni’n ceisio achub y sinema,” meddai Dilwyn Morgan.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd modd cadw’r sinema ar agor nes bod un arall yn cael ei agor mewn lleoliad arall o fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf.”

Cyngor Gwynedd sydd yn rhedeg yr adeilad ac fe ddywedodd llefarydd ar ei rhan bod datblygu rhaglen o ffilmiau ar gyfer y neuadd yn “her sylweddol”.

Mae’r cyngor yn dweud eu bod yn awyddus i gydweithio gyda’r gymuned leol ac yn ystyried gosod adnoddau sinema yn yr ysgol.

‘Ddim yn addas’

“Erbyn hyn, yn anffodus nid yw cyflwr adeilad Neuadd Buddug yn addas,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd. “Heb fuddsoddiad mewn cyfarpar digidol, ni all y Cyngor raglennu ffilmiau cyfoes yn Neuadd Buddug y tu hwnt i Awst 2014.

“Oherwydd hyn, yn anffodus mae’r Cyngor wedi dod i’r casgliad nad oes gennym bellach ddewis ond edrych o ddifri ar yr opsiwn o gau’r adnodd.”

Yn ôl y cyngor, doedd gan bobol leol ddim diddordeb i reoli’r neuadd eu hunain.