Fe helpodd ymchwil yn stafell drin cyrff Ysbyty Prifysgol Caerdydd i ennill un o brif wobrau’r flwyddyn am nofelau trosedd.
Yr awdur o Gaerdydd, Belinda Bauer, a gafodd y £3,000 am nofel drosedd y flwyddyn yng Ngwobrau Theakston yn Harrogate.
Mae ei nofel, Rubbernecker, wedi ei gosod yn y Brifysgol, lle mae myfyriwr yn gweithio ar ddyranu cyrff ac, wrth ymchwilio ar gyfer y gyfrol, fe fu hi’n gwylio yn yr adran go iawn.
Fe lwyddodd i guro awduron enwog eraill, gan gynnwys yr enillydd yn y ddwy flynedd ddiwetha’.
Gohebydd yng Nghaerdydd
Roedd Belinda Bauer wedi dechrau ei gyrfa’n ohebydd llysoedd yng Nghaerdydd ac wedi troi at nofelau ar ôl methu â chael gyrfa’n sgrifennu sgriptiau ffilm.
Adeg cyhoeddi Rubbernecker, fe ddywedodd wrth y wasg ei bod eisiau profi bod nofelau sydd wedi eu gosod yng Nghymru yn “gallu gwerthu”.