Heddiw oedd diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yn hyn gyda’r proffwydi tywydd mewn rhai ardaloedd yn rhoi rhybudd rhag gwres eithafol.
Gyda’r tymheredd uchaf yn Lloegr yn 29.1 gradd Celcius, fe gofnodwyd y gwres mwya’ yng Nghymru ym Maes Awyr Penarlag – 25.1 gradd C.
Y disgwyl yw y bydd y tymheredd yn codi eto i ddechrau fory cyn i gawodydd ledu ar draws Cymru yn ystod y dydd.
Ac, oherwydd ei bod mor glos, fe allai’r rheiny fod yn drwm gyda mellt a tharanau.
Mae disgwyl rhagor o law ddydd Sadwrn.