Mae ffigurau gan Heddlu De Cymru’n dangos bod llai o droseddau wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’u cymharu â’r flwyddyn gynt.
Ond fe fu cynnydd sylweddol yn nifer y troseddau treisgar ac mae patrwm tebyg y amlwg gan Heddlu Gogledd Cymru hefyd.
Er bod troseddau i lawr 2.1% ar y cyfan yn y De, roedd cynnydd mewn achosion trais:
- Cynnydd o 12.4% yn nifer y troseddau treisgar yn erbyn unigolion.
- Cynnydd o 7.1% yn nifer y troseddau a arweiniodd at anafu unigolion.
- Cynnydd o 21.3% yn nifer y troseddau rhyw.
Yn y Gogledd, er bod cwymp o 3% mewn troseddau’n gyffredinol, fe fu cynnydd o 8.4% mewn troseddau rhyw a 9.3% o gynydd mewn troseddau trais oedd heb achosi anafiadau.
Ond roedd cwymp o 4.6% yno yn nifer y troseddau a arweinodd at anafiadau.
Trefn newydd
Llai o fwrlglera a llai o droseddau ceir oedd yn rhannol gyfrifol am y cwymp cyffredinol yn ardal Heddlu De Cymru.
Ond dyw hi ddim yn bosib cymharu ffigurau’n hollol gywir tros y blynyeddodd gan fod y drefn o gasglu ffigurau wedi newid.
O dan y drefn newydd, mae troseddau’n cael eu cofnodi ar sail tystiolaeth yr unigolion sy’n rhoi gwybod am y drosedd – yn hytrach na sylwadau’r heddlu.