Mae’r mudiad gwyrdd, Cyfeillion y Ddaear, wedi cadarnhau eu bod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wario £1 biliwn ar ddatblygu rhan o ffordd yr M4 ger Casnewydd.
Mae’r mudiad ynghanol trafodaethau gyda chyfreithwyr i weld os oes digon o sail i herio penderfyniad y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart trwy ofyn am adolygiad barnwrol.
Yn ôl cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear, Gareth Clubb, sail yr her gyfreithiol fyddai bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwrando ar farn sefydliadau wrth ystyried y cynllun newydd – er bod hynny yn rhan o ddyletswydd awdurdod cyhoeddus fel nhw.
Roedden nhw wedi dadlau fod y draffordd newydd am gael “effaith ddybryd ar safleoedd natur pwysig”.
Fe fydd rhaid i’r mudiad benderfynu o fewn tri mis oes digon o sail i fynd ymlaen gydag adolygiad barnwrol.
‘Dim syndod’
Er ei siom ynglŷn â’r penderfyniad, dywedodd Gareth Clubb, nad oedd wedi synnu o glywed fod y cynllun wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.
“Doeddwn i ddim wedi synnu o gwbl fod Llywodraeth Cymru am fwrw mlaen gyda’r cynllun, waeth beth oedd y dadleuon yn erbyn neu beth oedd yr opsiynau gwahanol sydd ar gael,” meddai wrth golwg360.
“Dydyn nhw ddim wedi dangos unrhyw ddiddordeb i wrando ar farn, canfyddiadau neu ddata hyd yn oed sydd ddim yn cydymffurfio gyda’i rhagdybiaethau nhw.
Ychwanegodd fod gan “sawl grŵp” ddiddordeb mewn cymryd camau cyfreithiol.
Amddiffyn
Mae Edwina Hart wedi amddiffyn ei phenderfyniad gan honni bod y byd busnes yn cefnogi’r cyhoeddiad.
Ychwanegodd ei bod wedi disgwyl her gyfreithiol i’r penderfyniad oherwydd mai dyna natur unrhyw brosiect isadeiledd mawr.