Darlun o bentref yr athletwyr (O wefan y Gemau)
Mae rhagor o bobol wedi cael eu taro’n wael gan norofirws ym mhentref athletwyr Gêmau’r Gymanwlad yn Glasgow.

Bellach, mae 32 o achosion o’r norofirws wedi’u cofnodi yn y pentref, ac mae’r cleifion i gyd wedi cael eu hanfon adref.

Yn ôl adroddiadau, gweithwyr ar y safle yw’r rhan fwyaf ond mae rhai o’r athletwyr wedi dechrau cyrraedd yn ystod yr wythnos, gan fod y Gêmau’n dechrau ymhen llai nag wythnos.

Dechreuodd yr haint ledu ddydd Mawrth a chafodd deuddeg o bobol eu hanfon adref o Dalmarnock tan y byddan nhw wedi bod heb y symtomau am 48 awr.

Y norofirws yw’r haint stumog mwyaf cyffredin yn y DU ac mae’n effeithio ar rhwng 600,000 a miliwn o bobol o bob oedran bob blwyddyn.

Trefniadau arbennig

Mae mesurau arbennig wedi cael eu cyflwyno yn y pentref athletwyr er mwyn atal yr haint rhag lledu ymhellach, ac mae swyddogion y Gêmau’n cydweithio â’r bwrdd iechyd lleol.

Bydd pentref Dalmarnock yn gartref i 4,500 o gystadleuwyr a 2,300 o staff cynorthwyol yn ystod y Gêmau.

Mae pawb sydd yno wedi derbyn cyngor i aros yn eu stafelloedd os ydyn nhw’n cael eu taro’n wael.