Mae Rhys Enoch, sy’n hanner Cymro o Gernyw, yn cystadlu mewn pencampwriaeth agored am y tro cyntaf, ac mae e wedi dweud bod ei atgofion am ei frawd yn ei ysbrydoli.

Bu farw ei frawd, Ben mewn gwrthdrawiad pan oedden nhw’n teithio i gystadleuaeth Tlws Lytham yn 2009.

Mae Enoch, sydd ag un rhiant o Gymru ac un rhiant o Gernyw, yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Agored yn Hoylake ar Lannau Merswy sydd wedi dechrau heddiw.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd: “Daeth fy mrawd i’r Bencampwriaeth Agored hon am ddiwrnod yn 2006.

“Mae’n braf cael y cyswllt hwnnw gyda’r Bencampwriaeth Agored a gyda fe.

“Rwy wir yn teimlo fel ei fod e gyda fi.

“Mae bod yma’n arbennig dros ben, mae’n ddechrau wythnos wych.

“Mae bod o gwmpas y bois gorau a chael gweld beth maen nhw’n ei wneud a sut ry’ch chi’n cyfateb iddyn nhw’n wych.”

Y Gwyddel Rory McIlroy, sy’n un o’r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth, oedd ar frig y tabl ddechrau’r bore yn dilyn rownd o chwech ergyd yn well na’r safon.

Ond roedd dechrau gwael i’r Americanwr Tiger Woods, wrth iddo gwympo dwy ergyd yn waeth na’r safon cyn gorffen yn fwy cadarn ar y naw twll olaf.

Gorffennodd nifer o chwaraewyr eu rowndiau’n well na’r safon, gan gynnwys 68 i Sergio Garcia, Jim Furyk, Brooks Koepka a’r brodyr Molinar, Edoardo a Francesco.