Simon Easterby
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau fod eu prif hyfforddwr Simon Easterby am adael ei swydd gyda’r rhanbarth er mwyn ymuno â thîm hyfforddi cenedlaethol Iwerddon.

Mae’r Gwyddel wedi bod wrth y llyw ym Mharc y Scarlets ers dwy flynedd, a chyn hynny roedd yn is-hyfforddwr i Nigel Davies.

Yn ymuno â’r Scarlets fel hyfforddwr mae Wayne Pivac, cyn brif-hyfforddwr Fiji a fu hefyd yn gweithio gydag Auckland am flynyddoedd.

Fe fydd Easterby nawr yn ymuno a thîm hyfforddi Joe Schmidt, gyda’r disgwyl y bydd yn gyfrifol am flaenwyr tîm cenedlaethol y Gwyddelod.

Fe ymunodd Easterby, sydd bellach yn briod â’r gyflwynwraig deledu Sarra Elgan, glwb Llanelli fel chwaraewr nôl yn 1999, gan fynd ymlaen i dreulio dros ddegawd yn y ddinas a dod yn gapten ar y Scarlets.

Enillodd Easterby 65 cap dros Iwerddon yn ystod ei yrfa fel blaenasgellwr, ac roedd yn rhan o garfan y Llewod pan deithion nhw i Seland Newydd yn 2005.

“Rwyf mor ddiolchgar i Fwrdd y Scarlets am adael i hyn ddigwydd ac am barchu fy uchelgais a natblygiad fel hyfforddwr ar y lefel rhyngwladol,” meddai Easterby wrth gyhoeddi’r newyddion.

“Mae’n gyfle gwych i mi yn Iwerddon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr, ond mae wedi bod yn benderfyniad emosiynol gadael y rhanbarth sydd wedi chwarae rhan mor allweddol yn fy ngyrfa rygbi.”

Dywedodd Easterby ei fod yn ffyddiog fod gan yr hyfforddwyr y bydd yn eu gadael ar ôl – gan gynnwys Mark Jones, Mark Tainton a Danny Wilson – seiliau cadarn ar gyfer y tymor nesaf.

Talodd deyrnged hefyd i gefnogwyr y rhanbarth, gan ddweud fod ganddynt “angerdd a theyrngarwch tuag at bopeth y mae rygbi’n ei gynrychioli yng ngorllewin Cymru”.

Dros yr haf mae’r Scarlets wedi arwyddo nifer o enwau newydd gan gynnwys Regan King, Harry Robinson, Michael Tagikacibau a Chris Hala’ufia.

Fodd bynnag mae canolwr Cymru Jonathan Davies a chwaraewyr megis Josh Turnbull ac Olly Barkley ymysg y rhai sydd wedi gadael y rhanbarth.