Yr Almaen yn dathlu ennill Cwpan y Byd
Mae’r Almaen wedi codi i frig rhestr detholiadau’r byd ar ôl ennill Cwpan y Byd y penwythnos diwethaf, wrth i ganlyniadau’r twrnament gael effaith.

Yr Ariannin, a gollodd yn y ffeinal nos Sul, sydd wedi codi i’r ail safle, gyda’r Iseldiroedd yn neidio deuddeg safle i drydydd ar ôl cyrraedd y rownd gynderfynol.

Mae Lloegr fodd bynnag wedi cwympo deg safle i 20fed ar ôl twrnament siomedig tu hwnt, gyda Brasil (7fed) a Sbaen (8fed) hefyd yn disgyn ar ôl canlyniadau gwael.

Mae Cymru wedi cwympo tri safle i 44fed yn y detholiadau ar ôl chwarae dim ond unwaith yn y ddeufis diwethaf, y golled mewn gêm gyfeillgar i’r Iseldiroedd.

Mae dau o wrthwynebwyr Cymru yn eu grŵp rhagbrofol nesaf ar gyfer Ewro 2016 a fu’n chwarae yng Nghwpan y Byd wedi codi, gyda Gwlad Belg yn neidio chwe safle i bumed, a Bosnia-Herzegovina’n 19fed, dau safle’n uwch nag yr oedden nhw.

Fe gododd gwrthwynebwyr eraill grŵp nesaf Cymru i gyd rhywfaint hefyd ond maen nhw dal tipyn yn is yn y detholiadau, gydag Israel yn 67ain, Cyprus yn 139ain, ac Andorra’n 198fed.

O ran gwledydd eraill ynysoedd Prydain, mae’r Alban yn 27ain (dim newid), Gweriniaeth Iwerddon yn 70ain (dim newid) a Gogledd Iwerddon yn 89fed (fyny un).