James Harris yn dychwelyd
Mae’r bowliwr cyflym James Harris wedi dychwelyd i Forgannwg ar fenthyg am fis, wrth i’r Cymry wynebu argyfwng ymhlith y bowlwyr.

Gwnaeth Harris argraff i’r Cymry yn 2007 pan gipiodd ei wiced dosbarth cyntaf gyntaf yn 16 oed – yr ieuengaf erioed i gyflawni’r nod i Forgannwg.

Ond oherwydd ei fod am gynyddu ei obeithion o gynrychioli Lloegr, penderfynodd symud i Swydd Middlesex ac i gae Lord’s ar gyfer tymor 2013.

Dydy Harris ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth ers canol mis Mai ac fe fydd e’n llenwi bwlch ymhlith bowlwyr Morgannwg yn dilyn nifer o anafiadau.

Mae Mike Reed a Huw Waters allan am y tymor cyfan, ac mae John Glover allan am gyfnod wedi iddo anafu ei glin.

Bellach, daeth cadarnhad hefyd y bydd Ruaidhri Smith allan am bedwar i chwech wythnos wedi iddo dorri asgwrn yn ei droed.

Mae peth newyddion da i Forgannwg, fodd bynnag, wrth i Graham Wagg ddechrau hyfforddi unwaith eto yn dilyn anaf ddechrau’r tymor.

Bydd James Harris ar gael ar gyfer dechrau cystadleuaeth Cwpan Undydd Royal London, yn ogystal â’r ornest yn erbyn Eryr Swydd Essex yn y T20 Blast nos Wener.

Bydd Harris yn ail-ymuno â bowliwr arall o Swydd Middlesex, Tom Helm sydd hefyd ar fenthyg.

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod Harris yn “un o’r talentau gorau rydyn ni wedi’i gynhyrchu yn ystod y blynyddoedd diwethaf”.

Bydd Morgannwg yn herio Pantherod Swydd Middlesex ar Orffennaf 26, ond ni fydd Harris yn cael chwarae yn eu herbyn nhw.