Ar ôl dros fis o wledda ar bêl-droed ym Mrasil fe ddaeth Cwpan y Byd i ben ar nos Sul gyda buddugoliaeth i genhedlaeth newydd o sêr Almaeneg.

Ac ar y pod pêl-droed heddiw, gohebydd y BBC Dafydd Morgan sydd yn ymuno ag Owain Schiavone a Iolo Cheung i drafod y fuddugoliaeth, a’r gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd.

Ai’r Almaen oedd yn haeddu’r tlws eleni? Beth nesaf i’w tîm nhw o chwaraewyr ifanc? Pam na lwyddodd yr Ariannin i ennill?

Yn ogystal â’r cwestiynau yma, mae’r tri’n trafod pwy oedd wir yn haeddu gwobr chwaraewr gorau’r twrnament, pa dimau a chwaraewyr greodd argraff, a goliau gorau a gemau mwyaf cyffrous y twrament.

I gloi, pa wersi allai Cymru ddysgu o wylio gemau Cwpan y Byd eleni, a ble ydyn ni’n cymharu o ran safon?

Mwynhewch y pod, a chroeso i chi adael sylwadau – fe fyddwn ni yn ôl nes ymlaen yn yr haf pan fydd y tymor newydd a gemau nesaf Cymru’n dechrau!