Gareth Warburton
Ni fydd yr athletwr Gareth Warburton yn cystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar ôl cadarnhad ei fod wedi cael ei wahardd am dorri rheolau cyffuriau.

Mewn datganiad heddiw dywedodd UK Athletics bod sylwedd gwaharddedig wedi ei ganfod yn system yr athletwr, ac mae nawr wedi’i wahardd rhag cystadlu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Bydd yn cael gwrandawiad o flaen panel sydd yn delio â throseddau cyffuriau yn y gamp maes o law.

Mae’n golygu na fydd un o athletwyr mwyaf disglair Cymru’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow, sydd yn dechrau’r wythnos nesaf.

Fe ddaeth Warburton, sydd yn 31 bellach, yn bedwerydd yn y ras 800m bedair blynedd yn ôl pan oedd y Gemau yn Delhi.

‘Sioc’

Mewn datganiad fe gadarnhaodd Team Wales na fyddai’r athletwr yn cystadlu yng Nglasgow bellach, ond gan nad yw wedi’i ganfod yn euog eto na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach.

Mae’r athletwr ei hun hefyd wedi ymateb i’r canlyniad bellach, gan ddweud fod y newyddion wedi dod yn “gryn sioc” a dweud yn “bendant iawn nad wyf, yn ymwybodol, wedi cymryd unrhyw sylwedd sydd wedi ei wahardd”.

Dywedodd Warburton y byddai’n cydweithio’n llawn â’r awdurdodau ar yr achos, gan ddymuno’n dda i weddill tîm Cymru yn ystod y Gemau.