Mae haint stumog wedi taro pentref athletwyr Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow, wythnos yn unig cyn i’r gystadleuaeth ddechrau.
Dywedodd llefarydd fod nifer fach o achosion wedi cael eu hadrodd ar safle Dalmarnock.
Mae’r athletwyr wedi cael rhybudd i aros yn eu hystafelloedd os ydyn nhw’n dioddef o symptomau’r haint.
Dywed y rhybudd: “Dylai unrhyw un sy’n preswylio yn y pentref ac sydd â symptomau sy’n cynnyws dolur rhydd ac sy’n taflu fyny aros yn eu hystafelloedd a chysylltu â’r polyclinic am gymorth dros y ffôn neu drwy eu rheolwyr.
“Dylai’r gweithlu hysbysu eu rheolwr ac osgoi dod i’r gwaith. Os yw symptomau’n ymddangos yn ystod shifft, dylai’r gweithlu gysylltu â’u goruchwyliwr.”
Mae disgwyl i’r athletwyr gyrraedd y pentref yn fuan ar gyfer y Gemau sy’n cael eu cynnal rhwng Gorffennaf 23 i Awst 3.