Ben Davies
Mae Lerpwl wedi ymuno yn y ras am gefnwr Abertawe, Ben Davies, wrth i drafodaethau lusgo rhwng Tottenham a’r Elyrch am y cefnwr chwith.

Yn ôl adroddiadau mae Abertawe wedi gwrthod cynnig o £8m gan y clwb o Lannau Merswy am y Cymro.

Mae’r clwb hefyd yn parhau i drafod â Spurs am y cefnwr, ac maen nhw’n gobeithio cyfnewid Davies am Gylfi Sigurdsson, chwaraewr canol cae Tottenham a dreuliodd gyfnod ar fenthyg yn Abertawe.

Fodd bynnag, dyw’r ddau glwb ddim eto wedi cytuno ar werth y chwaraewyr maen nhw am gyfenwid â’i gilydd.

Mae’n ymddangos felly bod Lerpwl am geisio bachu Davies o dan drwynau Spurs, ar ôl iddyn nhw fethu yn eu hymdrechion i arwyddo Alberto Moreno o Sevilla.

Bu rheolwr Lerpwl Brendan Rodgers wrth y llyw yn Abertawe am ddwy flynedd cyn symud i Anfield – ond dim ond ar ôl iddo adael y cafodd Davies ei gyfle yn nhîm cyntaf yr Elyrch.

Bony’n mynd hefyd?

Ond nid yw’n glir eto a fydd ymgais Lerpwl i arwyddo Davies yn cael unrhyw effaith ar eu diddordeb mewn un o chwaraewyr eraill Abertawe, Wilfried Bony.

Mae Lerpwl yn chwilio am ymosodwr newydd ar ôl iddyn nhw werthu Luis Suarez i Barcelona, gyda’r sôn fod Bony ar eu rhestr fer nhw.

Ond mae Abertawe’n anhapus â hynny, gyda’r clwb eisoes wedi dweud nad ydyn nhw eisiau gwerthu chwaraewr a sgoriodd 25 gôl y tymor diwethaf.

Mae’n ymddangos na fyddai’r Elyrch am werthu Bony am lai nac £20m – swm mae Lerpwl yn gyndyn o dalu.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i Michu symud i Napoli ar fenthyg yn fuan, ac mae adroddiadau hefyd yn parhau i gysylltu Pablo Hernandez a chlwb yn Qatar.