Iestyn Harris yn rhoi'r gorau iddi
Mae Rygbi XIII Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi penodi cyn-hyfforddwr Lloegr a Ffrainc, John Kear yn hyfforddwr tîm cenedlaethol Cymru.

Fe fydd Kear, 59, yn disodli Iestyn Harris ac yn cymryd at y gwaith yn yr hydref pan fydd Cymru’n herio Ffrainc, Yr Alban ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Mae gan Kear lu o brofiad fel hyfforddwr cenedlaethol, ac fe arweiniodd Lloegr yn ystod Cwpan y Byd yn 2000.

Ar lefel y clybiau, bu’n hyfforddwr ar Castleford Tigers, Bramley, Paris St Germain, Sheffield Eagles, Hull, Wakefield Trinity a Batley Bulldogs.

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Kear: “Dwi’n hynod falch i gael y cyfle fel prif hyfforddwr newydd tîm cenedlaethol Cymru yn rygbi xiii.

“Dwi’n gredwr mawr mewn rygbi xiii cenedlaethol fel y dangosir yn fy nghefndir.

“Dwi wir yn meddwl y galla i wneud cyfraniad sylweddol i’r gamp yng Nghymru a fydd yn ein galluogi ni i fod yn gymwys a gwneud yn dda yng Nghwpan y Byd Rygbi XIII 2017.

“Mae gêm genedlaethol gryf yn angenrheidiol ar gyfer rygbi xii.

“Byddai’n well i ni gael cymaint o dimau ag sy’n bosib ar y lefel uchaf ac mae’n sialens i mi i droi Cymru yn un o’r timau gorau hynny.”