Collodd Morgannwg yn erbyn Siarcod Swydd Sussex yn Hove neithiwr wrth iddyn nhw geisio sicrhau lle yn rownd wyth ola’r T20 Blast.
Pe baen nhw wedi ennill, fe allen nhw fod wedi cyrraedd yr ail safle yn y tabl ond bellach, maen nhw’n brwydro o hyd i orffen yn y pedwar uchaf.
Tarodd Jacques Rudolph 62 ar frig y rhestr i’r Cymry wrth iddyn nhw gyrraedd 151-8 ar ddiwedd eu hugain pelawd, wrth i Will Beer gipio tair wiced am 14 mewn pedair pelawd i’r Siarcod.
Tarodd Luke Wright 66 i’r Siarcod wrth iddyn nhw gwrso’r nod ac ennill o bum wiced gyda naw o belenni’n weddill.
Y Cyfnod Clatsio
Dechreuodd y batiad yn gadarn i Forgannwg wedi iddyn nhw alw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf.
Tarodd Rudolph dri phedwar yn y belawd agoriadol oddi ar Lewis Hatchett wrth i Forgannwg wibio i 16-0.
Ond bowliodd Stuart Magoffin belawd dynn o’r pen arall gan ildio dau rediad yn unig cyn i Chris Liddle ddisodli Hatchett yn y drydedd belawd.
Fawr o lwc gafodd Liddle chwaith, gan ildio dau bedwar i Rudolph, yn ogystal â dwy belen lydan wrth i’r Cymry gyrraedd 30-0.
Bowlio llac ddilynodd yn y bedwaredd belawd gan Magoffin hefyd, wrth i’r Awstraliad ildio dau bedwar – un yr un i Rudolph a’r capten Jim Allenby.
Tarodd Allenby chwech oddi ar Hatchett yn y bumed, pelawd a gostiodd ddeg o rediadau i’r Siarcod wrth i Forgannwg gyrraedd 49-0.
Daeth pedwar arall i Allenby oddi ar Magoffin yn y chweched hefyd wrth i Forgannwg groesi’r hanner cant i gyrraedd 57-0 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Wrth i Siarcod Swydd Sussex ymateb, dechreuon nhw’n gadarn wrth i Chris Nash daro pedwar oddi ar Allenby yn y belawd gyntaf i gyrraedd 8-0.
Ychwanegodd Nash bedwar arall yn yr ail belawd oddi ar Michael Hogan, ac fe darodd Luke Wright bedwar arall wrth i’r Siarcod gyrraedd 18-0 wedi dwy belawd.
Ond collodd Nash ei wiced oddi ar belen gynta’r drydedd belawd, wedi’i ddal gan y wicedwr Wallace oddi ar Will Owen.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal y Siarcod, wrth i Wright daro chwech a phedwar i gyrraedd 30-1 ar ddiwedd y belawd.
Cipiodd Morgannwg eu hail wiced ddechrau’r bedwaredd belawd, wrth i Luke Wells gael ei ddal gan Hogan oddi ar ei fowlio’i hun cyn i Wright daro chwech arall i ymestyn cyfanswm y Siarcod i 37-2.
Tarodd Craig Cachopa chwech oddi ar y troellwr llaw chwith Dean Cosker yn y bumed pelawd wrth i’r Siarcod gyrraedd 46-2.
Pelawd fawr i’r Siarcod oedd y chweched, wrth i Cachopa daro tri phedwar oddi ar Will Owen cyn i Wright ychwanegu pedwar arall a’r Siarcod yn 63-2 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Y pelawdau canol
Trodd y Siarcod at y troellwr Will Beer yn y seithfed, ac fe ddaeth llwyddiant ar unwaith wrth i Allenby gael ei fowlio am 24, a Morgannwg yn 63-1 ar ddiwedd y belawd.
Daeth newid arall yn yr wythfed hefyd, wrth i Steffan Piolet gael ei gyflwyno i’r ymosod ac ildio saith rhediad i Rudolph a’r batiwr newydd Mark Wallace.
Daeth llwyddiant pellach i Beer yn y nawfed belawd, wrth iddo fowlio Wallace am 3, a Morgannwg yn 72-2.
Tarodd Rudolph bedwar oddi ar belen gyntaf Piolet yn y ddegfed cyn i Chris Cooke gael ei ddal gan Craig Cachopa am 2, a Morgannwg yn 79-3 hanner ffordd trwy eu pelawdau.
Collodd Morgannwg eu pedwaredd wiced ym mhelawd nesaf Beer, wrth i Stewart Walters daro’r bêl yn syth i ddwylo’r bowliwr heb ychwanegu at gyfanswm y Cymry, ac fe gyrhaeddon nhw 81-4 erbyn diwedd yr unfed belawd ar ddeg.
Cyrhaeddodd Rudolph ei hanner cant yn y ddeuddegfed, wrth i Forgannwg ymestyn eu cyfanswm i 88-4.
Pelawd dynn a ddilynodd gan Beer unwaith eto, gan ildio pedwar rhediad cyn i Chris Nash gadw’r pwysau ar Forgannwg yn y bedwaredd belawd ar ddeg, y Cymry’n 96-4 gyda chwe phelawd yn weddill.
Tarodd Murray Goodwin chwech oddi ar Piolet yn y bymthegfed gan ychwanegu unarddeg o rediadau at y cyfanswm.
Cipiodd Morgannwg drydedd wiced y Siarcod yn y seithfed belawd, wrth i Craig Cachopa gael ei stympio oddi ar Cosker wrth iddyn nhw gyrraedd 69-3.
Pelawd dynn oedd yr wythfed hefyd, wrth i Salter ildio pump rhediad a’r Siarcod yn 74-3.
Cadwodd Cosker y pwysau ar y Siarcod yn y nawfed hefyd, gan ildio chwe rhediad cyn i Salter gael ei daro am bedwar yn y ddegfed a’r Siarcod yn 89-3 hanner ffordd trwy’r batiad.
Trodd Morgannwg at y troellwr achlysurol Rudolph yn yr unfed belawd ar ddeg ac fe ildiodd bump o rediadau, y nod bellach yn 58 oddi ar 54 o belenni am y fuddugoliaeth i’r Siarcod.
Tri rhediad yn unig ildiodd Allenby yn y ddeuddegfed, gan gynnwys pelen lydan, er mwyn cadw’r pwysau ar y Saeson, y nod bellach yn 55 oddi ar 48 o belenni.
Ond y drydedd belawd ar ddeg oedd y belawd dyngedfennol yn yr ornest hon wrth i Forgannwg gadw’r ffydd gyda Rudolph.
Tarodd Wright dri phedwar ac un chwech mewn pelenni olynol wrth i’w dîm wibio i 116-3 gyda saith pelawd yn weddill.
Daeth llygedyn o obaith i’r Cymry yn y bedwaredd belawd ar ddeg, wrth i Salter gipio wiced Wright am 66, y batiwr wedi’i ddal yn gampus gan Cosker, a’r Siarcod yn 125-4 gyda chwe phelawd yn weddill.
Pelawd dynn oedd y bymthegfed i Forgannwg, wrth i Hogan ildio pum rhediad a’r Siarcod yn 130-4, y nod yn 22 oddi ar 30 o belenni.
Y pelawdau clo
Tarodd Goodwin ddau bedwar oddi ar Nash yn yr unfed belawd ar bymtheg wrth i Forgannwg gyrraedd 119-4.
Daeth pedwar arall i Goodwin cyn iddo golli’i wiced am 35 ddiwedd yr ail belawd ar bymtheg, gan daro pelen gan Liddle i ddwylo Chris Machan, a Morgannwg bellach yn 129-5.
Pelawd siomedig oedd y ddeunawfed i Forgannwg hefyd, wrth i Rudolph ddychwelyd i’r cwtsh wedi sgorio 62, y batiwr agoriadol o Dde Affrica wedi’i fowlio gan Magoffin. Tarodd Andrew Salter bedwar cyn diwedd y belawd wrth i Forgannwg gyrraedd 136-6 gyda dwy belawd yn weddill.
Ychwanegodd Morgannwg ddeg rhediad at eu cyfanswm yn y bedwaredd belawd ar bymtheg, wrth i Salter daro pedwar.
Pelawd ddychrynllyd oedd y belawd olaf i Forgannwg wrth i Ben Wright gael ei fowlio gan Hatchett cyn i Salter gael ei ddal gan Machan oddi ar Hatchett, y Cymry’n 149-7 ar ddiwedd y batiad.
Gyda nod o 22 oddi ar 30 o belenni am y fuddugoliaeth i’r Siarcod, dechreuodd yr unfed belawd ar bymtheg yn gadarn i’r Saeson wrth i Ben Brown daro pedwar oddi ar Allenby, ond byrhoedlog oedd ei glatsio, wrth i Allenby gipio’i wiced, wedi’i ddal gan Chris Cooke.
Roedd y Siarcod yn 136-5 gyda phedair pelawd yn weddill ac fe gadwodd Hogan y pwysau ar y Saeson, gan ildio pedwar rhediad.
Ildiodd Allenby wyth rhediad yn y ddeunawfed belawd, gan olygu bod y Siarcod wedi ymestyn eu cyfanswm i 148-5, a’r nod yn bedwar oddi ar ddeuddeg o belenni.
Tair pelen o’r bedwaredd belawd ar bymtheg oedd eu hangen ar y Siarcod i gyrraedd y nod, y rhediadau buddugol yn dod oddi ar fat Will Beer, hwnnw’n taro pedwar oddi ar Will Owen i sicrhau’r fuddugoliaeth o bum wiced.