Mae Morgannwg yn teithio i Hove heno i herio Siarcod Swydd Sussex, gan wybod y byddai buddugoliaeth yn cryfhau eu gobeithion o chwarae gartref yn rownd wyth ola’r T20 Blast.
Mae’r Cymry’n drydydd yn y tabl yn dilyn eu buddugoliaeth o bedwar rhediad yn erbyn Swydd Surrey nos Wener diwethaf, ac fe fyddai codi i’r ail safle erbyn diwedd y gystadleuaeth yn sicrhau gornest gartref i’r Cymry.
Pe bai Morgannwg yn llwyddo i guro’r Siarcod heno, fe fydden nhw’n codi i’r ail safle uwchben Hebogiaid Swydd Hampshire ac fe fyddai’r Siarcod allan o’r gystadleuaeth i bob pwrpas.
Mae Eryr Swydd Essex eisoes wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf wedi iddyn nhw guro Spitfires Swydd Gaint o 63 rhediad ac mae’r Cymry uwchben y Spitfires yn y tabl o ganlyniad.
Bydd Morgannwg yn herio’r Eryr yn Stadiwm Swalec nos Wener, gan wybod y gallai’r ornest honno fod yn dyngedfennol i’w gobeithion.
Dydy Morgannwg erioed wedi curo’r Siarcod ar eu tomen eu hunain yn y gystadleuaeth hon, wrth i’r Siarcod ennill o 53 rhediad yn 2010 ac o bedair wiced yn 2011.
Ond fis Mai eleni, Morgannwg oedd yn fuddugol yn Stadiwm Swalec o bum wiced pan darodd Chris Cooke 65 heb fod allan i sicrhau buddugoliaeth oddi ar y belen olaf.
Mae Morgannwg wedi cynnwys cyn-fatiwr Swydd Sussex, Murray Goodwin yn eu carfan 13 dyn, ac mae lle hefyd i’r troellwr ifanc Kieran Bull sydd wedi plesio i’r ail dîm yn ddiweddar.
Daw Bull i mewn i’r garfan yn lle’r batiwr agoriadol Will Bragg.
Mae dau o chwaraewyr y Siarcod – Matt Prior a Chris Jordan – allan o’r garfan heno gan eu bod nhw’n hyfforddi gyda charfan Lloegr cyn yr ail gêm brawf yn erbyn India.
Mae’r capten Ed Joyce, Rory Hamilton-Brown, Michael Yardy, Jon Lewis a James Anyon i gyd wedi’u hanafu ac felly mae Chris Nash yn gapten ar y tîm heno.
Carfan 13 dyn Siarcod Swydd Sussex: W Beer, B Brown, C Cachopa, H Finch, L Hatchett, C Liddle, M Machan, C Nash (capten), S Piolet, L Wells, L Wright, Yasir Arafat, S Zaidi
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, S Walters, M Goodwin, C Cooke, B Wright, T Lancefield, A Salter, D Cosker, W Owen, M Hogan, K Bull
Mae’r belen gyntaf am 6.30yh yn fyw ar SKY Sports 2.