Yr Almaen yn dathlu neithiwr
Wrth i un bennod orffen mae un arall yn dechrau, ac mae’n teimlo felly heddiw wrth i’r Almaen ddathlu ennill Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 24 mlynedd.
Mae Cwpan y Byd eleni ym Mrasil wedi bod yn llawn cyffro, goliau a drama hwyr – ac er na chawsom lwyth o goliau yn y ffeinal neithiwr roedd rhagor o’r lleill i ddod.
Cipiodd yr Almaenwyr y fuddugoliaeth oddi wrth yr Ariannin gyda llai na deg munud yn weddill o’r amser ychwanegol, wrth i Mario Gotze wasgu’r bêl heibio i Sergio Romero o ongl dynn.
Ond os oedd y canlyniad terfynol o 1-0 yn agos, doedd dim amheuaeth erbyn y chwib olaf mai’r Almaenwyr fu’r tîm gorau ym Mrasil yr haf hwn.
Fe ddechreuodd Cwpan y Byd gyda sioc fawr, wrth i genhedlaeth wych y Sbaenwyr golli ddwywaith yn y grŵp a mynd allan o fewn llai nag wythnos.
Ac yn y Maracana neithiwr fe gadarnhawyd fod cenhedlaeth wych newydd wedi cyrraedd brig y llwyfan rhyngwladol, wrth i die Mannschaft ddangos eu doniau i’r byd.
Messi’n methu
Cyn y gêm roedd llawer o’r sylwebwyr yn honni mai hwn oedd cyfle Lionel Messi i serennu, cipio’r Gwpan i’r Ariannin, a phrofi unwaith ac am byth ei fod yn haeddu’i le ochr yn ochr â goreuon hanes y gêm, Maradona a Pele.
Fe fydd y trafod yn parhau ynglŷn â lle Messi mewn hanes am flynyddoedd i ddod, ond does dim gwadu’r ffaith ei fod ef a’i wlad wedi colli cyfle euraidd neithiwr.
Fe allai’r Albiceleste nid yn unig fod wedi cipio Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1986 ac oes aur Maradona, ond gwneud hynny yn iard gefn eu gelynion pennaf, Brasil.
Yn lle hynny fe lithrodd y cyfle o’u dwylo, a chyda Messi eu seren yn 31 oed erbyn Cwpan y Byd nesaf mae’n teimlo fel petai nhw wedi methu eu cyfle gorau nhw.
O’i gyd-chwaraewyr, Gonzalo Higuain oedd fwyaf euog o fethu cyfleoedd ar y cae, ac fe allai’r Archentwyr wedi bod dwy ar y blaen erbyn yr egwyl petai ymosodwr Napoli wedi llwyddo i fanteisio.
Yn gyntaf, fe fethodd cyfle yn erbyn un gan lusgo’r bêl heibio i’r postyn ar ôl i Toni Kroos o’r Almaen benio’r bêl yn syth i’w lwybr, ac yna rhwydodd groesiad Ezequiel Lavezzi ond roedd yn camsefyll yn ddiangen.
Cafodd Messi ei hun gyfle yn yr ail hanner hefyd ond heibio i’r postyn aeth ei ymdrech ef gyda Manuel Neuer wedi’i drechu.
Ac fe allai Rodrigo Palacio fod wedi rhoi ei dîm ar y blaen yn ystod amser ychwanegol, petai’r ergyd a gododd dros ben Neuer wedi glanio’r ochr cywir i’r postyn.
Weltmeisters unwaith eto
Fe dalodd yr Ariannin y gosb am beidio â chymryd y cyfleoedd hynny, wrth i’r cloc dician tuag at giciau o’r smotyn.
Chafodd yr Almaenwyr ddim cymaint â hynny o gyfleoedd yn ystod y gêm, gyda pheniad Benedikt Howedes yn erbyn y postyn yn yr hanner cyntaf ac ergyd Andre Schurrle yn yr ail ymysg y gorau gawson nhw.
Ond gyda llai na deg munud yn weddill rhedodd Schurrle lawr yr asgell chwith cyn croesi’r bêl yn hyfryd i Gotze, a gymrodd gyffyrddiad gwych cyn rhwydo heibio i Romero.
Doedd dim ffordd yn ôl i’r Ariannin, a’r Almaen oedd pencampwyr y byd, neu Weltmeister, am y tro cyntaf ers bron i chwarter canrif.
Mae’r Almaenwyr yma i aros hefyd – mae’r rhan fwyaf o’u tîm nhw, gan gynnwys Kroos, Howedes, Mats Hummels, Jerome Boateng, Mesut Ozil a Thomas Muller i gyd o gwmpas 24 a 25 oed, sydd yn golygu fod ganddyn nhw flynyddoedd o’u blaenau gyda’i gilydd.
Mae’n bosib y bydd hyd yn oed Bastian Schweinsteiger (29 nawr) a Phillip Lahm (30) dal yn chwarae yng Nghwpan y Byd tro nesaf – dim ond yr ymosodwr Miroslav Klose (36) sydd yn siŵr o ffarwelio.
Mae ganddyn nhw gnwd ifanc o chwaraewyr disglair o dan 23 oed hefyd, gan gynnwys Gotze a Schurrle ond hefyd eraill gafodd brofiad o fod yn y garfan y tro hwn fel Julian Draxler, Shkrodan Mustafi, Christoph Kramer a Matthias Ginter.
Fe aeth yr Almaen drwy newidiadau sylweddol i’w system bêl-droed ieuenctid ar ddechrau’r 2000au, ac mae ffrwyth hynny’n dechrau dangos nawr.
Fe lwyddodd cenhedlaeth aur Sbaen i ennill tair pencampwriaeth ryngwladol o’r bron rhwng 2008 a 2012 – a fydd y genhedlaeth newydd yma o Almaenwyr yn medru efelychu hynny?
Cawn weld mewn dwy flynedd yn Ewro 2016 – a phwy a ŵyr, efallai y bydd Cymru hyd yn oed yno i ymuno yn yr hwyl erbyn hynny.