Yr Almaen gafodd eu coroni yn enillwyr Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil neithiwr.

Fe wnaethon nhw guro’r Ariannin o 1-0 ar ôl i’r eilydd 22 oed, Mario Götze, sgorio gôl foli mewn amser ychwanegol – saith munud cyn i’r ddau dîm orfod cicio o’r smotyn.

Mae’r gôl wedi cael ei disgrifio yn un o’r goreuon a welwyd ym Mrasil eleni a hynny’n rhoi cap ar dwrnamaint cadarn a deallus i’r Almaenwyr.

Roedd ambell fflach o dalent capten yr Ariannin, Lionel Messi, i’w weld yn ystod y gêm, ond methu wnaeth y chwaraewr chwim a sgorio y tro hwn.

Mae’r Almaen yn cipio’r teitl am y pedwerydd tro yn eu hanes a nhw yw’r wlad gyntaf o Ewrop i ennill y gwpan ar dir De America.

Gwobrau

Chwaraewr y twrnament: Lionel Messi (Yr Ariannin)

Y Sgoriwr Uchaf: James Rodriguez (Colombia)

Goli’r twrnament: Manuel Neuer (Yr Almaen)

Chwaraewr Ifanc: Paul Pogba (Ffrainc)