Cerflun Crist y Gwaredwr yn Rio wedi'i oleuo yn lliwiau tîm yr Ariannin fel rhan o ddathliadau Cwpan y Byd (AP Photo/Leo Correa)
Mae cefnogwyr eisoes wedi dechrau llenwi stadiwm Maracana yn Rio de Janeiro ar gyfer gêm derfynol Cwpan y Byd heno.
Bydd y gêm rhwng yr Almaen a’r Ariannin yn cychwyn am 8.00 (ein hamser ni), ac mae disgwyl y bydd biliwn o bobl yn ei gwylio ledled yn byd, yn ogystal â’r 79,000 o gefnogwyr yn y stadiwm.
Er gwaetha’r siom o berfformiad trychinebus Brasil wrth golli 7-1 i’r Almaen nos Fawrth, mae strydoedd Rio yn fwrlwm o ddathlu wrth i uchafbwynt y gystadleuaeth ddynesu.
Mae gweithwyr wedi bod ar y safle drwy’r nos yn sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer y diwrnod mawr. Fe fydd dros 25,000 o blismyn a milwyr ar ddyletswydd yn ystod y gêm yn y cyrch diogelwch mwyaf yn hanes y wlad.
Ymysg y cefnogwyr a fydd yn gwylio’r gêm yn y stadiwm fe fydd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ac Arlywydd Rwsia, Vladmir Putin.