Jacques Rudolph oedd seren y noson i Forgannwg yn yr Oval neithiwr, wrth i’r Cymry drechu Swydd Surrey o bedwar rhediad yn y T20 Blast.
Tarodd y batiwr agoriadol o Dde Affrica 75 wrth i’r Cymry gyrraedd 192-4 ar ddiwedd eu hugain pelawd, wedi iddyn nhw gael eu gwahodd i fatio’n gyntaf.
Cwympodd y Saeson bedwar rhediad yn brin o’r nod, er gwaethaf 60 gan Jason Roy i ddechrau’r batiad yn gadarn i’r tîm cadarn.
Y Cyfnod Clatsio
Dechrau digon tawel gafodd Morgannwg i’r batiad, wrth i Azhar Mahmood o Bacistan gyfyngu’r cyfanswm i 3-0 oddi ar y belawd gyntaf.
Ond tarodd y capten Jim Allenby ddau bedwar yn yr ail belawd oddi ar Tom Curran wrth i’r Cymry wibio i 14-0.
Tarodd Rudolph bedwar yn y drydedd i ymestyn y cyfanswm i 20-0 cyn i Allenby golli ei wiced trwy ddaliad gan Zafar Ansari oddi ar belen gyntaf Matthew Dunn yn y bedwaredd belawd.
Tarodd Rudolph a’r batiwr newydd Mark Wallace bedwar yr un yn y bumed pelawd oddi ar Curran wrth i Forgannwg gyrraedd 36-1, a pharhau i glatsio yn y chweched wnaeth Rudolph, gan daro dau bedwar arall oddi ar Matthew Dunn wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 47-1.
Dechrau digon cadarn gafodd Swydd Surrey wrth ymateb yn eu batiad nhw, wrth i Jason Roy daro pedwar oddi ar Jim Allenby i gyrraedd 6-0 ar ddiwedd y belawd gyntaf.
Pelawd siomedig ddilynodd i Michael Hogan, wrth i’r Awstraliad ildio naw rhediad mewn pelawd oedd yn cynnwys pelen lydan – y Saeson yn 15-0 oddi ar ddwy belawd.
Clatsio Allenby wnaeth Swydd Surrey yn y drydedd belawd hefyd, wrth i Steven Davies daro pedwar mewn pelawd a gostiodd ddeg o rediadau – Swydd Surrey yn 25-0 oddi ar dair.
Daeth newid yn y bowlio yn y bedwaredd belawd, a chafodd Will Owen ei daro am bedwar gan Davies wrth i’r Saeson ychwanegu saith rhediad at eu cyfanswm i gyrraedd 32-0.
Daeth llwyddiant o’r diwedd i Forgannwg yn y bumed pelawd, wrth i Dean Cosker ddal Davies oddi ar Hogan am 27, gyda Swydd Surrey yn 38-1 wedi pum pelawd.
Tarodd Kevin Pietersen bedwar oddi ar Owen yn y chweched pelawd wrth i Swydd Surrey gyrraedd 46-1 ar ddiwedd y cyfnod clatsio, un rhediad y tu ôl i gyfanswm Morgannwg ar yr un adeg.
Y pelawdau canol
Ymunodd Wallace yn yr hwyl i Forgannwg yn y seithfed belawd, gan daro pedwar a chwech oddi ar y troellwr llaw chwith Robin Peterson, yn dilyn pedwar gan Rudolph yn gynharach yn y belawd – y Cymry bellach yn 64-1.
Tarodd Rudolph bedwar oddi ar y troellwr Gareth Batty yn r wythfed belawd cyn i Wallace golli’i wiced, wedi’i ddal coes o flaen am 22 wrth i Forgannwg gyrraedd 72-2.
Wrth i Stewart Walters gamu i’r llain ddechrau’r nawfed belawd, roedd yn benderfynol o gynnal y momentwm gan daro tri phedwar oddi ar Jason Roy, a chyfanswm Morgannwg bellach yn 88-2.
Ond buan y daeth batiad Walters i ben wrth i’r troellwr Batty ei ddal oddi ar ei fowlio’i hun am 16 wrth i Forgannwg gyrraedd 91-3 gyda hanner eu pelawdau’n weddill.
Tarodd Chris Cooke bedwar oddi ar ei ail belen wrth i Forgannwg gyrraedd y cant yn union wedi 11 o belawdau.
Dwy belawd digon tawel gafodd Morgannwg yn y ddeuddegfed a’r drydedd ar ddeg wrth iddyn nhw wthio’r cyfanswm i 114-3.
Cyrhaeddodd Rudolph ei hanner cant oddi ar 36 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys chwe phedwar hyd hynny.
Tarodd Cooke bedwar oddi ar Batty yn y bedwaredd ar ddeg a daeth pedwar heibiad ychwanegol wrth i Forgannwg gyrraedd 127-3.
Tarodd Cooke chwech oddi ar Peterson yn y bymthegfed i gadw’r pwysau ar Swydd Surrey, y cyfanswm bellach yn 136-3 gyda phum pelawd yn weddill.
Pelawd ddigon tawel gafodd Swydd Surrey yn y seithfed, wrth i Dean Cosker ildio chwe rhediad, a’r Saeson yn 52-1.
Dechreuodd y clatsio yn yr wythfed, wrth i Forgannwg droi at y troellwr achlysurol Jacques Rudolph, ac fe gafodd ei daro am chwech gan Roy wrth i Swydd Surrey gyrraedd 64-1.
Ond cadwodd Cosker y pwysau ar y Saeson o’r pen arall gan ildio pum rhediad – Swydd Surrey yn 69-1 ar ôl naw pelawd.
Cafodd y troellwr ifanc Andrew Salter ei gyflwyno i’r ymosod yn y degfed a chael ei daro am ddau chwech – un yr un i Roy a Pietersen ond daeth lwc Pietersen i ben wrth iddo gael ei ddal gan Ben Wright am 20 – Swydd Surrey yn 84-2 hanner ffordd trwy’r batiad.
Tarodd y capten Gary Wilson bedwar oddi ar Cosker yn yr unfed belawd ar ddeg wrth i Swydd Surrey gyrraedd 92-2, y nod yn 101 oddi ar naw o belawdau.
Cadwodd Salter y pwysau ar Swydd Surrey yn y ddeuddegfed, gan ildio chwe rhediad, y cyfanswm yn 98-2.
Ond llacio wnaeth y pwsyau yn y drydedd belawd ar ddeg, wrth i Cosker gael ei daro am bedwar a chwech mewn pelawd a gostiodd 13 o rediadau.
Tarodd Roy bedwar oddi ar Salter yn y bedwaredd belawd ar ddeg cyn i Wilson ychwanegu dau bedwar arall, y cyfanswm yn 125-2, y nod yn 68 oddi ar chwe phelawd i’r Saeson.
Pelawd siomedig i Forgannwg oedd y bymthegfed, wrth i Allenby golli’i ffordd a bowlio dwy belen lydan wrth i Swydd Surrey wibio i 135-2 gyda phum pelawd yn weddill.
Y pelawdau clo
Daeth pelawd fawr i Forgannwg yn yr unfed ar bymtheg, wrth i Cooke daro chwech a phedwar mewn pelawd a gostiodd 13 o rediadau i’r tîm cartref.
Pelawd gymysg i Forgannwg oedd yr ail ar bymtheg, wrth i Dunn gael ei daro am chwech a dau bedwar, ond fe gollodd Cooke ei wiced am 43, wedi’i ddal gan Roy – cyn diwedd y belawd, tarodd Rudolph a Murray Goodwin bedwar yr un wrth i’r Cymry gyrraedd 165-4.
Rhoddodd Azhar Mahmood ychydig o bwysau ar Forgannwg yn y ddeunawfed, gan ildio chwe rhediad yn unig cyn i Goodwin a Rudolph daro pedwar yr un oddi ar Dunn i ymestyn y cyfanswm i 182-4 gydag un belawd yn weddill.
Azhar Mahmood fowliodd y belawd olaf ac ildio pedwar i Rudolph wrth i Forgannwg orffen y batiad ar 192-4 gan osod nod heriol i Swydd Surrey.
Er i Swydd Surrey golli wiced oddi ar belen gynta’r unfed belawd ar bymtheg, wrth i Wilson gael ei ddal gan Hogan oddi ar Owen am 26, pelawd siomedig oedd hi i Forgannwg, wrth iddyn nhw ildio 17 rhediad.
Cafodd ei daro wedyn am dri phedwar gan Azhar Mahmood gan ildio pelen lydan a phelen wag i ddod â chyfanswm Swydd Surrey i 152-3.
Daeth llwyddiant i Hogan oddi ar belen gynta’r ail belawd ar bymtheg, wrth i Owen ddal Jason Roy am 60 mewn batiad oedd yn cynnwys tri phedwar a thri chwech – y tîm cartref yn 157-4, a’r nod yn 36 oddi ar dair pelawd.
Daeth 10 rhediad oddi ar y ddeunawfed, wedi’i bowlio gan Owen – Azhar Mahmood yn taro chwech wrth i Swydd Surrey gyrraedd 167-4 gyda nod o 26 oddi ar ddwy belawd.
Sgoriodd Swydd Surrey hanner y rhediadau oedd eu hangen yn y bedwaredd belawd ar bymtheg, wrth i Azhar Mahmood daro chwech a phedwar oddi ar Allenby wrth iddyn nhw gyrraedd 180-4.
Gyda’r cyfrifoldeb o fowlio’r belawd olaf yn nwylo Hogan, tarodd Vikram Solanki bedwar oddi ar y drydedd belen, ond cwympodd Swydd Surrey bedwar rhediad yn brin o’r nod, gan olygu bod Morgannwg gam yn nes at gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y gystadleuaeth wrth iddyn nhw symud i’r pedwerydd safle yn y tabl.