Mae arolwg wedi awgrymu bod nifer y troseddau sy’n cael eu cyflawni yng ngwledydd Prydain wedi cyrraedd ei lefel isaf ers 1981.
Ond mae cofnodion yr heddlu’n dangos bod y lefel wedi aros yn gyson am y tro cyntaf ers degawd.
Yn ôl yr ystadegau, cafodd 7.3 miliwn o droseddau eu cofnodi yn 2013-14, sy’n ostyngiad o 14% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.
Ond doedd dim newid yn ystod y flwyddyn yn ôl cofnodion yr heddlu am y tro cyntaf ers 2002-03.
Daw’r ystadegau wedi i newidiadau gael eu cyflwyno i’r modd y mae troseddau’n cael eu cofnodi yn dilyn pryderon am y drefn.
Cafodd 1.3 miliwn o droseddau treisgar eu cofnodi yn y cyfnod diweddaraf, sy’n cyfateb i ostyngiad o 20% yn ystod y flwyddyn.
Ond yn ôl ffigurau’r heddlu, roedd cynnydd o 6% yn nifer y troseddau treisgar – tua 33,000 o droseddau ond roedd gostyngiad o 537 yn nifer y llofruddiaethau a dynladdiadau a gafodd eu cofnodi.
Ond roedd cynnydd o 282 yn nifer y marwolaethau a gafodd eu hachosi gan yrrwyr yn gyrru’n beryglus, a chynnydd o 20% yn nifer y troseddau rhyw.
Roedd cynnydd hefyd o 27% yn nifer yr achosion o dreisio, y lefel uchaf ers degawd ac roedd cynnydd o 17% hefyd yn nifer y troseddau rhyw o fathau gwahanol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau fod y cynnydd yn nifer y troseddau rhyw yn gysylltiedig ag ymchwiliad Yewtree i droseddau rhyw hanesyddol.
“Mae’r cynnydd hefyd yn debygol o adlewyrchu effaith Yewtree ehangach lle mae mwy o ddioddefwyr wedi dod ymlaen i adrodd am droseddau rhyw wrth yr heddlu.”