Mae dyn wnaeth drywanu ei gyn-gariad i farwolaeth mewn siop trin gwallt yng Nghaerloyw wedi’i garcharu am oes.

Fe fydd rhaid i Asher Maslin dreulio o leiaf 24 o flynyddoedd dan glo am lofruddio Hollie Gazzard, 20, ar Chwefror 18.

Cyrhaeddodd Maslin y siop gyda chyllell gwerth £3 roedd e newydd ei phrynu ar ôl i Gazzard ddod â’u perthynas i ben.

Ceisiodd staff a chwsmeriaid atal Maslin rhag ei thrywanu ond fe’i trywanodd hi 14 o weithiau.

Roedd yr heddlu eisoes ar eu ffordd yn dilyn adroddiadau bod Maslin wedi cyrraedd y siop yn chwilio amdani.

Ceisiodd y gwasanaethau brys ei hachub ond bu farw’n ddiweddarach.

Gwnaeth Maslin ffoi yn dilyn y digwyddiad ac fe gafodd wared ar y gyllell ar safle adeiladu cyfagos cyn newid ei ddillad a theithio mewn tacsi i dŷ ffrind.

Cafodd ei arestio yno’r diwrnod canlynol a’i gyhuddo o lofruddio Hollie Gazzard.

Clywodd y llys fod Maslin wedi ei thrywanu 14 o weithiau mewn ychydig  llai na dwy funud.

‘Didrugaredd’

Dywedodd y barnwr fod y llofruddiaeth yn un “ddidrugaredd” ac fe fu farw’r ddynes ifanc o ganlyniad i golli cymaint o waed.

Bu’r ddau yn byw yn Llundain cyn penderfynu symud i Gaerloyw i fod yn nes at ei theulu.

Clywodd y llys fod Maslin wedi dechrau ymddwyn yn ymosodol at ei gariad yn y cyfnod hwnnw a’i fod e, ar un achlysur, wedi gafael yn ei gwddf yn ystod ffrae.

Ymchwiliad

Roedd e hefyd wedi’i tharo ar achlysur arall, ond doedd hi ddim wedi mynd at yr heddlu ar yr un o’r ddau achlysur.

Dywedodd yr erlynydd fod y berthynas wedi dod i ben wedi i Maslin ei chicio’n gynharach eleni.

Ar ôl bygwth lladd ei hun, gwnaeth Maslin ddwyn cerdyn banc a £300 oddi arni ac fe wnaeth e fygwth achosi difrod i’w chartref.

Anfonodd Maslin neges destun y diwrnod cyn lladd Hollie Gazzard yn bygwth trais.

Clywodd y llys fod Maslin o dan ddylanwad cocên pan lofruddiodd y ddynes.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i’r cyswllt rhwng Heddlu Swydd Gaerloyw a Hollie Gazzard yn y dyddiau cyn ei marwolaeth.