Synod Cyffredinol Eglwys Loegr
Mae aelodau Synod Cyffredinol Eglwys Loegr wedi pleidleisio dros ordeinio merched yn esgobion heddiw.

Dim ond dwy flynedd yn ôl, roedd aelodau’r eglwys wedi pleidleisio yn erbyn yr un cynnig o chwe phleidlais.

Dywedodd Archesgob Caergaint, Justin Welby, mewn dadl cyn y bleidlais, y byddai esgobion benywaidd yn gallu diwallu anghenion aelodau ceidwadol yr eglwys ac y dylen nhw bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth.

Roedd wedi dweud ei fod yn “disgwyl ac yn gobeithio y bydd y bleidlais hon yn cael ei phasio.”