Tafwyl
Mae trefnwyr Tafwyl yn dweud eu bod yn falch iawn o’r cynnydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr i ddiwrnod agoriadol yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn.
Daeth dros 16,500 o ymwelwyr trwy’r gatiau yn ystod y dydd i fwynhau’r ŵyl. Meddai’r trefnwyr fod hynny’n gynnydd o fwy na thraean ar y nifer a ddaeth y llynedd.
Dywedodd Siân Lewis, prif weithredwr Menter Caerdydd sy’n trefnu Tafwyl: “Rydym wedi ein synnu ond eto’n falch o boblogrwydd y digwyddiad ac mae’n dangos pam y byddem yn hoffi cynnal yr ŵyl agoriadol dros ddau ddiwrnod yr haf nesaf.
“Aeth llawer iawn o waith trefnu i gynnal beth oedd yn ddiwrnod gwych a hoffem ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr, staff a phartneriaid am eu holl waith a’u cefnogaeth.
“Ond yn bwysicaf oll, hoffem ddiolch i bobl Caerdydd am ddangos unwaith eto gryfder yr iaith yn y ddinas.
“Roedd y Prif Weinidog gyda ni ar y diwrnod ac roedd y niferoedd a’r ystod o weithgareddau oedd ar gael yn bendant wedi gwneud argraff arno. Gobeithio y gallwn adeiladu ar ein llwyddiant y flwyddyn nesa a hefyd helpu drwy weithredu fel model ar gyfer digwyddiadau cymunedol eraill ar draws y wlad.”
Y llynedd, roedd pryder am ddyfodol yr ŵyl wedi i’r cyngor roi’r gorau i’w nawdd. Rhoddodd Llywodraeth Cymru £20,000 i Tafwyl ar ôl i Gyngor Caerdydd ddweud bod yn rhaid iddyn nhw wneud toriadau gwariant.
Mae digwyddiadau Tafwyl yn parhau ar draws y brifddinas tan Orffennaf 18 – am fwy o wybodaeth ewch i wefan Tafwyl.org.