Llys y Goron Abertawe
Fe wnaeth dynes sydd wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth grio yn y llys heddiw wrth i’r gyllell gafodd ei defnyddio i ladd dyn canol oed gael ei ddangos i’r rheithgor.
Bu farw Richard Craddock, 51, ar ôl iddo gael ei drywanu yn ei wddf y llynedd.
Roedd wedi rhoi lifft i Katie Ann Jenkins, oedd yn 24 ar y pryd, yn ôl i’w fflat pan stopiodd ei gar yng nghanol Ffordd Sterry yn Abertawe.
Gwelwyd Richard Craddock yn baglu allan o’r car cyn cwympo i’r llawr tra bod Katie Ann Jenkins wedi rhedeg mewn i dy ffrind yn sgrechian.
Mae’r amddiffyniad yn honni bod Katie Ann Jenkins wedi trywanu Richard Craddock oherwydd ei bod hi’n ofni y byddai’n ymosod arni.
Mae hi hefyd yn meddwl bod cyffur wedi cael ei roi yn ei diod yn gynharach yn y noson a’i bod hi wedi cwyno wrth ffrind bod Richard Craddock yn ei “chyffwrdd” hi.
Fodd bynnag, mae’r erlyniad yn dweud nad yw honiad y diffynnydd ei bod hi wedi ceisio amddiffyn ei hun yn wir.
Maen nhw hefyd yn dweud ei bod hi wedi mynd i mewn i’r car – rhai oriau ar ôl cwyno am ymddygiad Richard Craddock – gyda chyllell wedi ei chuddio yn ei bra.
Ar chweched ddiwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe, clywodd y rheithgor bod Katie Ann Jenkins wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd hi wedi bwriadu lladd Richard Craddock.
Wrth i’r gyllell gael ei dangos i’r rheithwyr, dechreuodd Katie Ann Jenkins grio. Fe wnaeth hyn i’r Barnwr Keith Thomas ofyn i’w chyfreithiwr os oedd hi’n gallu parhau.
Cadarnhaodd ymchwilydd safle trosedd, Rhian Kinsella, hefyd ei bod wedi chwilio fflat Richard Craddock y diwrnod ar ôl ei farwolaeth.
Dywedodd ei bod hi wedi dod o hyd i ddau wydryn gyda’r hyn oedd yn ymddangos fel “gweddillion powdr” ynddynt.
Mae’r achos yn parhau.