Y Farwnes Butler-Sloss
Mae’r Farwnes Butler-Sloss wedi ymddiswyddo fel cadeirydd yr ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn San Steffan, fe gyhoeddodd Downing Street heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog mai’r Farwnes Butler-Sloss oedd wedi gwneud y penderfyniad i gamu o’r swydd.

Mae’n dilyn galwadau arni i ymddiswyddo yn dilyn honiadau bod ei brawd, Syr Michael Havers, a oedd yn dwrne cyffredinol ac arglwydd ganghellor yn yr 80au,wedi ceisio atal y cyn AS Geoffrey Dickens rhag datgelu honiadau am gam-drin plant yn y Senedd.

Roedd y rhai a oedd yn gwrthwynebu ei phenodiad wedi awgrymu na fyddai dioddefwyr oedd wedi cael eu cam-drin yn teimlo’n hyderus bod yr ymchwiliad yn cael ei gadeirio gan rywun a oedd yn rhan o’r sefydliad.

Mae’n debyg bod y Farwnes Bustler-Sloss wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Gartref am ei phenderfyniad dros y penwythnos, gan drafod gyda’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ar ôl hynny.