David Cameron
Mae disgwyl i David Cameron benodi rhagor o ferched i swyddi allweddol pan fydd yn ad-drefnu ei gabinet heddiw.
Mae’n debygol mai’r rhain fydd y newidiadau sylweddol olaf i’r cabinet cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf ac mae disgwyl i hen bennau fel Ken Clarke a Syr George Young gael eu disodli.
Mae sïon y bydd merched fel y gweinidog cyflogaeth Esther McVey, y gweinidog addysg Liz Truss a’r cynorthwyydd gweinidogol Penny Mordaunt yn cael eu dyrchafu.
Mae Margot James, Amber Rudd a Harriett Baldwin hefyd wedi cael eu henwi fel rhai a allai gael eu dyrchafu wrth i Cameron geisio ymateb i feirniadaeth bod ei Lywodraeth yn cynnwys gormod o ddynion.
Gallai’r cyn-ysgrifennydd amddiffyn Liam Fox ddychwelyd i’r rheng flaen bron i dair blynedd ar ôl rhoi’r gorau iddi yn dilyn ffrae dros ei gynghorydd arbennig.
Mae cryn ddyfalu hefyd y gallai Eric Pickles gael ei benodi’n Brif Chwip, gyda swydd y Gweinidog Cymunedau a Llywodraeth Leol yn mynd i aelod newydd o’r cabinet.
Mae son bod swyddi David Willetts, y gweinidog prifysgolion, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Owen Paterson ac Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Andrew Lansley o dan fygythiad.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddechrau cyhoeddi’r ad-drefnu heno drwy benodi Prif Chwip yn gyntaf cyn cyhoeddi’r gweddill yfory.
Mae angen i David Cameron ganfod comisiynydd newydd i gynrychioli’r DU ym Mrwsel hefyd.
Mae cyn arweinydd y Torïaid, yr Arglwydd Howard, ymhlith y rhai sy’n cael eu henwi fel ymgeiswyr posibl.
Mae’n debyg nad yw Nick Clegg yn bwriadu newid ei dîm tan ar ôl y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban ym mis Medi.