Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio pam nad yw profion sgrinio Syndrom Downs dal ar gael ym mhob rhan o Gymru.

Chwe blynedd ar ôl i Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) awgrymu fod y profion yn cael eu cynnig i ferched beichiog ar y Gwasanaeth Iechyd, dim ond cleifion yn y gogledd sydd â mynediad i’r prawf.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi dweud fod y broses o gyflwyno’r profion yn “gymhleth” ac wedi bod yn “heriol” i fyrddau iechyd.

Ond mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru yn dweud ei bod yn “gwbl annheg” nad yw pob claf yng Nghymru yn cael mynediad i’r prawf sgrinio am ddim, fel sy’n digwydd dros y ffin yn Lloegr.

‘Straen’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar: “Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru flynyddoedd ar ei hôl hi, sy’n gorfodi darpar rieni i dalu yn breifat am brawf y bydden nhw’n ei gael am ddim yn Lloegr.

“Mae cael babi yn rhywbeth sy’n gallu rhoi straen mawr ar gyplau ac mae’r Llywodraeth yn ychwanegu mwy o bryder at hyn – sef y peth diwethaf maen nhw ei angen.

“Mae’n rhaid i weinidogion ddeffro a chyflymu’r broses o gyflwyno’r profion er mwyn cefnogi darpar rieni yn y cyfnod cyntaf o feichiogrwydd.”

Ychwanegodd Antoinette Sandbach, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Ogledd Cymru:

“Fe all y prawf ddod a’r ansicrwydd i ben i rieni sydd yn poeni y gallai eu plentyn gael ei eni a Syndrom Down.

“Rwy’n gobeithio y bydd y profion ar gael i gleifion Cymru cyn gynted ag sy’n bosib.”